Lleoliad:
Ystafell Bwyllgora 3 - Senedd
Dyddiad: Dydd Mercher, 20 Ionawr 2016
Amser: 09.33 -
11.16
Gellir gwylio’r cyfarfod
ar Senedd TV
yn:
http://senedd.tv/cy/3355
Categori |
Enwau |
Aelodau’r Cynulliad: |
David Rees AC (Cadeirydd) Alun Davies AC John Griffiths AC Altaf Hussain AC Elin Jones AC Darren Millar AC Lynne Neagle AC Gwyn R Price AC Lindsay Whittle AC Kirsty Williams AC |
Tystion: |
Sarah Rochira, Comisiynydd Pobl Hŷn Cymru |
Staff y Pwyllgor: |
Llinos Madeley (Clerc) Sian Giddins (Dirprwy Glerc) Amy Clifton (Ymchwilydd) |
Trawsgrifiad
Gweld trawsgrifiad o'r cyfarfod.
1.1 Trafododd y Pwyllgor ei ffordd o ymdrin â'r sesiwn graffu gyda'r Comisiynydd.
2.1 Ni chafwyd ymddiheuriadau.
3.1 Bu’r Comisiynydd yn ateb cwestiynau gan aelodau’r Pwyllgor.
3.2 Cytunodd y Comisiynydd i ddarparu'r eitemau a ganlyn i'r Pwyllgor:
· amserlen yn amlinellu pryd y mae'n disgwyl gallu darparu tystiolaeth o ganlyniadau sy'n deillio o'r 'anghenion gweithredu' yn ei hadolygiad o Gartrefi Gofal;
· rhestr o gamau gweithredu a gwaith dilynol ym maes gofal preswyl y mae'n bwriadu eu cadarnhau maes o law.
4.1 Derbyniwyd y cynnig.
5.1 Trafododd y Pwyllgor y dystiolaeth a ddaeth i law, a chytunodd i ysgrifennu at y Comisiynydd a Llywodraeth Cymru i amlinellu ei farn.
6.1 Ystyriodd y Pwyllgor ei ffordd o ymdrin â'r Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol mewn cysylltiad â'r Bil Mynediad at Driniaethau Meddygol (Arloesi) a chytunwyd ar y ffordd honno.